Skip to content

Croeso i dudalen y Swyddfa Docynnau …

Mae llu o weithgareddau ymlaen gyda ni bob amser, ac mae gyda ni’r holl wybodaeth sydd angen i’ch helpu chi i drefnu tocynnau neu i ateb eich ymholiadau. Rhowch ganiad inni ary ffôn, halwch ebost neu dewch mewn i’n gweld ni. Os oes problemau neu sylwadau gyda chi, rhowch wybod inni. Diolch yn fawr – daliwch i ddarllen.

Ffôn y Swyddfa Docynnau: 01792 863722
Neu ebostiwch ni: pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk

Galwch i mewn i’n gweld ni:
Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
Stryd Herbert
Pontardawe
SA8 4ED


Oriau Agor y Swyddfa Docynnau:
10:30yb - 2.45yp a 6.30yh - 8yh Dydd Llun i Dydd Gwener (Dydd Mercher o 11:30yb) ac ar agor am un awr cyn unrhyw sioe.

Codir tâl o £1.50 am bostio tocynnau, neu dewch i’w nôl yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau neu cyn y sioe.


 

Telerau ac Amodau a mwy o wybodaeth

  • Nodwch na ellir dychwelyd costau tocynnau.
  • Dylid gwneud sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot’.
  • Gellir casglu tocynnau o’r Ganolfan 24 awr ar ôl ichi eu prynu yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau, neu eu gadael yno i’w casglu ar ddiwrnod y perfformiad.
  • Gallwch chi archebu seddau i’w cadw am 7 diwrnod heb dalu; mae hyn yn ddefnyddiol os oes angen amser arnoch chi i drefnu eich ffrindiau a’ch teulu neu i gytuno ar ddyddiadau.
  • Allwn ni ddim dal i gadw seddau llai nag wythnos cyn perfformiad; byddant yn cael eu gwerthu os bydd galw mawr ar seddau ar gyfer digwyddiad poblogaidd.
  • Mae prisiau consesiwn (plant, myfyrwyr, pobl hŷn, pobl ar gymhorthdal incwm neu sydd wedi’u cofrestru’n anabl) ar gael ar gyfer sioeau penodol. Bydd angen prawf o’ch statws.

Hynt

Cynllun rhwyddfynediad cenedlaethol newydd yw Hynt, sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. I gael rhagor o fanylion ewch at  www.hynt.co.uk

Nodwch  ein bod yn codi ardoll o 10% ar bob tocyn a archebir;gwneir hyn i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig profiad safonol i’n cwsmeriaid a bod y cynllun yn dal i fod yn gynaliadwy.

Os yw ein Swyddfa Docynnau ar gau, gellir prynu ein tocynnau i gyd trwy ein system archebu ar-lein ddiogel, 24 awr y dydd. Os cewch chi unrhyw drafferth wrth geisio prynu tocynnau ar-lein, ebostiwch pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk

^
cyWelsh