Skip to content

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe’n Ganolfan Celfyddydau Aml-Bwrpas, wedi’i lleoli yng nghalon Pontardawe, 10 munud i ffwrdd o gyffordd 45 ar yr M4.

Mae gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe ystod o fannau hyblyg ar gael i’w rhentu; mae’r rhain yn addas i bopeth o gynadleddau, cyfarfodydd, darlithoedd, gweithdai a dosbarthiadau i sesiynau recordio fideo a phartïon preifat. Gellir addasu pob un o’r mannau hyn yn ôl eich gofynion personol.

Mae cymorth technegol llawn ar gael i sicrhau golwg a sain broffesiynol i’ch digwyddiad chi. Mae cyfarpar taflunio, wi-fi, cyfarpar cyflwyno, e-bost, cyfleusterau cysylltu trwy’r rhyngrwyd a gwasanaeth llungopïo ar gael ar y safle. Ychwanegwch ein tîm o staff profiadol a chyfeillgar, a dyma’r lle delfrydol i chi. Cysylltwch â ni i gael dyfynbris sy’n cyfateb i’ch anghenion chi. Fyddwn ni ond yn rhy falch i’ch helpu chi.

For booking enquires and further information please contact the Venue Manager Meirion Gittins (m.h.gittins@npt.gov.uk).

 

Neuadd y Theatr

 

Pontardawe venue

Ar gyfer cyfarfodydd mawr neu gynadleddau mae ein neuadd neu awditoriwm yn lle ardderchog ar gyfer hyd at 325 o bobl, gyda’i system sain lawn ag acwsteg wych.

Mae seddau trwy’r theatr i gyd ar gyfer 280 (a 170 o seddau ychwanegol â golwg gyfyngedig). Mae’r seddau symudadwy ar y prif lawr yn gwneud y theatr yn ofod hyblyg y gellir ei droi’n gyflym yn lleoliad cabaret anffurfiol i 120 o bobl.

Theatr Stiwdio

 

Pontardawe venue

Mae ein stiwdio aml-bwrpas eang, sy’n ddelfrydol ar gyfer cynadleddau, gweithdai a pherfformiadau llai, yn cynnig lle i hyd at 80 o bobl mewn lleoliad seminar.  Sgrîn fawr ar gael.

Stiwdio

Studio Room

Mae’r stiwdio eang, a goleuni da ynddo, yn lleoliad ardderchog ar gyfer cyfarfodydd llai i hyd at 20 o bobl.  Gyda’i lawr crog, bariau a drychau hyd llawn mae’n cynnig lle delfrydol ar gyfer gweithgareddau megis dawnsio, rihyrsio dramâu, gymnasteg a chrefft ymladd.

Oriel

 

Pontardawe venue

Mae’r ystafell fach yma yn yr atig yn ddelfrydol ar gyfer gweithgareddau sefydlog ar raddfa fach megis gwneud dillad a chrefftau.

Rhentu’r Theatr / Stiwdio i gyflwyno cynyrchiadau

 

Tom speight

Defnyddir ein dau leoliad theatr yn bennaf ar gyfer ein cynyrchiadau ni, rihyrsio ac Ymchwil a Datblygu, ond gellir eu gosod ar rent weithiau i gwmnïau allanol neu unigolion, yn amodol ar addasrwydd ac argaeledd. 

Yn wahanol i’r Theatr, sylwch nad yw’r Stiwdio’n ‘flwch du’.  Mae ffenestri yn ardal y bar yn gadael golau i mewn i’r lle.  

 

Stiwdio

Manyleb Technegol Yma

^
cyWelsh