Skip to content

Mae stiwardiaid gwirfoddol yn aelodau hanfodol o dîm y Ganolfan Celfyddydau.

Rydym am i’n hymwelwyr gael profiad diogel, proffesiynol a chroesawgar. Yn ogystal â’r cyfle i fod yn rhan o’n tîm, cewch weithio mewn theatr hardd sy’n meddu ar swyn ei gwreiddiau Fictoraidd a manteision canolfan gelfyddydau gyfoes. Cewch y cyfle i weithio gyda phobl greadigol.

Mae angen ymrwymiad, y parodrwydd i roi o’ch amser, proffesiynoldeb a theyrngarwch i fod yn wirfoddolwr. Rydym yn falch iawn o safon uchel ein gofal cwsmeriaid ac yn disgwyl i’n gwirfoddolwyr ymrwymo i lynu wrth yr un safon.

Rydym am i’n hymwelwyr fwynhau adloniant theatraidd a sinematig fforddiadwy i bawb, mewn amgylchedd diogel, proffesiynol a chroesawgar.

Mae gwirfoddoli yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe’n cynnwys sawl cyfrifoldeb:

  • Gwirio tocynnau wrth ddrysau’r awditoriwm
  • Bod ar gael i gynorthwyo’r gynulleidfa ar bob adeg
  • Gwerthu rhaglenni
  • Gwirio mannau sy’n barod i’w defnyddio gan y cyhoedd
  • Cynorthwyo gydag unrhyw ddigwyddiadau cymorth cyntaf
  • Helpu’r gynulleidfa i ddianc os ceir unrhyw ddigwyddiad/argyfwng.

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe’n ystyried bod gwirfoddoli’n rôl gyfrifol ac rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad ein gwirfoddolwyr i’r lleoliad. Dyma gyfle ardderchog i weld amrywiaeth eang o sioeau a chyfle i gwrdd a chymdeithasu â phobl eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am wirfoddoli, e-bostiwch y Rheolwr Gweithrediadau, Nik Voisey, n.voisey@npt.gov.uk

Lleoliadau Gwaith

Rydym yn hapus i gefnogi cyfleoedd profiad gwaith, ond byddwch yn ymwybodol na allwn gynnwys mwy na dau berson ar unrhyw adeg. Gallwch wneud cais am leoliad gwaith drwy e-bostio’r Rheolwr Gweithrediadau, Nik Voisey ar n.voisey@npt.gov.uk

^
cyWelsh