Skip to content

Mae bar hyfryd gyda ni. Os ydych chi’n dod i unrhyw un o’n digwyddiadau ni felly, croeso ichi ddod i fwynhau defnyddio ein bar yn ystod eich ymweliad.

Ein Bar Theatr yw’r lle gorau i gwrdd â hen ffrindiau, cwrdd â phobl newydd neu ymlacio a synfyfyrio cyn sioe.

Byddwch chi’n siŵr o gael croeso cynnes yno bob amser; mae rhestr chwarae ymlaen gyda ni bob amser i siwtio’r sioe a chreu awyrgylch addas. Rydym yn wir falch o’n Canolfan ni, ac mae’r bar yn lle hyfryd groesawgar i fod. Os carech chi ymuno â ni felly i gymryd gwydraid o rywbeth cryf neu ysgafn, neu ddiod poeth, bydd croeso cynnes i chi. Mae popgorn, nachos a byrbrydiau bar ar gael gyda ni hefyd. Mae gyda ni hen ffefrynau cyfarwydd, cwrwau lleol a detholiad o winoedd at ddant pawb, yn ogystal â hufen iâ blasus Joe’s o Abertawe, a llawer mwy.

Mae’r holl elw a wneir yn y bar yn mynd at sicrhau dyfodol y Ganolfan hardd yma.

 

^
cyWelsh