Skip to content

Dydd Miwsig Cymru – Candelas

09 Feb 2024

19:30

Mae gyrfa Candelas wedi mynd o nerth i nerth wedi iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, a oedd yn rhannu’r un enw a’r band. Daeth caneuon megis ‘Anifail‘ a ‘Symud Ymlaen‘ yn gyfarwydd iawn i dorfeydd ledled Cymru bron yn syth. Daethant i’r brig mewn tri chategori yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror 2015, yn ogystal â chael eu dewis i fod yn un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru 2014-15. 

Daeth Candelas yn rhan o deulu Ikaching yn Haf 2014, pan ryddhawyd dwy sengl ganddynt, ‘Cynt a’n Bellach’ a ‘Dim Cyfrinach’. Yn dilyn hyn, rhyddhawyd eu hail albwm trydanol, ‘Bodoli’n Ddistaw’, ym mis Rhagfyr 2014. 

Lansiwyd ‘Bodoli’n Ddistaw’ mewn gig arbennig yn Neuadd Buddug y Bala, ac fe’i darlledwyd yn fyw ar raglen C2 Radio Cymru, Lisa Gwilym.

Candelas oedd yn cloi Maes B 2015, ac yn cloi y gig gyda cherddorfa’r Welsh Pops yn y Pafiliwn yn Eisteddfod 2016 – dau brofiad a sicrhaodd fod y band yn aros ar frig ymerodraeth y sin gerddorol yng Nghymru. Daeth eu fersiwn o ‘Rhedeg i Paris’ yn anthem tros gyfnod yr Ewros 2016, gyda’r fideo yn cyrraedd tros 100 mil o ‘hits’.

Rhyddhawyd eu trydydd albwm ym Mehefin 2018, ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?’ gyda gig enfawr yn Neuadd Buddug, Y Bala.

***

Candelas' career has gone from strength to strength after they released their first album, which shared the same name as the band. Songs such as 'Animal' and 'Symud Ymlaen' became very familiar to crowds throughout Wales almost immediately. They came top in three categories at the Cellar Awards in February 2015, as well as being chosen to be one of the bands in the BBC Cymru Horizons project 2014-15. 

Candelas became part of the Ikaching family in Summer 2014, when they released two singles, 'Cynt a n Bellach' and 'Dim Cyfrinach'. Following this, their second electrifying album, 'Bodoli'n Distaw', was released in December 2014.

'Bodoli'n Ddistaw' was launched at a special gig in Neuadd Buddug y Bala, and was broadcast live on Lisa Gwilym's C2 Radio Cymru programme. 

Candelas closed Maes B 2015, and closed the gig with the Welsh Pops orchestra in the Pavilion at the 2016 Eisteddfod - two experiences that ensured that the band remained at the top of the empire of the musical scene in Wales. Their version of 'Run to Paris' became an anthem during Euros 2016, with the video reaching over 100 thousand hits. 

Their third album was released in June 2018, 'Wyt Ti'nMeiddio Dod i Chwarae?' with a huge gig in Neuadd Buddug, Bala.

Book

Choose a date and time...

Fri 09 Feb 24

Key Information

Production Company
Menter Iaith
Language and Accessibility

Video

Cookies are Disabled

To be able to view this content you will need to enable the following cookies:

Marketing

Adjust your preferences
^
en_GBEnglish