1348, Pentreufargirec. Mae anhrefn newydd wedi dod – y Pla. Mae Duw wedi bradychu'r bobl ac mae gwallgofrwydd o bwyntio bys, hela cathod a llosgi hereticiaid wedi boddi'r pentref yn y toiled. I Twm y twyllwr, mae popeth yn gêm. Tra bod pobl yn marw, mae 'na ysgol gymdeithasol i'w ddringo. Ond o dan reolaeth Casglwr Trethi sy'n chwilio am gariad a gwerthwr tail chwyldroadol sy'n annog meddwl agored ymhlith y werin, mae Twm yn sylweddoli bod gan rym llawer o rwystrau.
Comedi direidus, tywyll am y rhai sy'n elwa o argyfwng a llygredd. Croeso i'r Pla Du - does dim byd mwy doniol.
Wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Chris Harris, mae’r ddrama hon yn Gynhyrchiad Theatrau Sir Gâr, wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a’i chefnogi gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Cynhyrchiad Cymraeg yw 'Golygfeydd o'r Pla Du', sy'n addas i blant dros 14 oed (mae'n cynnwys iaith gref, themâu ynghylch marwolaeth, salwch, sefyllfaoedd gwaedlyd, hiwmor sarcastig a phypedau fflwfflyd iawn). Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad - mwy o fanylion isod.
Sibrwd
Ym mhob perfformiad, bydd Sibrwd – ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn Gymraeg. Trwy gyfrwng llais yn y glust, mae’r ap yn cyfleu yn Saesneg yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y llwyfan ac mae ar gael i aelodau’r gynulleidfa ei ddefnyddio ar eu ffonau a'u clustffonau eu hunain.
***
1348, Pentreufargirec. A new chaos has arrived - Plague. God has betrayed the people, and a frenzy of finger-pointing, cat-hunting and heretic-burning has drowned the village in the toilet. To con-artist Twm, everything is ripe for the picking. With people dying, there’s a social ladder to climb. But under the rule of a Tax Collector desperately searching for love, and a revolutionary manure-seller spreading free-thinking amongst the peasantry, Twm will realise that the climb to power has its obstacles.
A mischievous, black (death) comedy about those who gain from crisis and corruption. Welcome to the Black Death – there’s nothing funnier.
Written and directed by Chris Harris, this is a Theatrau Sir Gâr Production, funded by the Arts Council of Wales, and supported by Theatr Genedlaethol Cymru.
This is a Welsh language production, suitable for ages 14+ (contains strong language, themes of death, illness, comic gore, sarcastic humour and very fluffy puppets). Sibrwd, the Welsh language access app, will be available at every performance - more details below.
Sibrwd
In each performance, Sibrwd – Theatr Genedlaethol Cymru's language access app – will be available to guide the audience through the story, whatever their level of fluency in Welsh. By means of a voice in the ear, the app conveys in English what is being said on the stage, and is available for the audience to use with their own mobile phone and earphones.
Costs
Standard | Safonol: £14.30, Concession | Consesiwn (Over 60s & below 16): £12.10, Under 25 | Dan 25: £9.90
Production Company
Theatrau Sir Gâr
Language and Accessibility