Skip to content

Mae gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod y gellir eu haddasu i ddiwallu’ch anghenion personol. Gall ein stiwdios amlbwrpas mawr gynnwys niferoedd bach neu hyd at 100 o bobl mewn seminar.

Mae’r awditoriwm yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd mawr neu gynadleddau, gyda lle i hyd at 325 o gynadleddwyr ac mae ganddo acwstig ardderchog a system sain lawn.

Mae taflunyddion, WiFi, cyfarpar cyflwyno, e-bost, cyfleusterau i gysylltu â’r rhyngrwyd, gwasanaeth llungopïo a chyfleusterau ffacs ar gael ar y safle a gellir darparu lluniaeth ac arlwyo yn y caffi ar y safle, ‘The Gatsby Tearooms and Restaurant’.

Gallwch drefnu a llogi lle drwy e-bostio’r Rheolwr Gweithrediadau, Meirion Gittins,

m.h.gittins@npt.gov.uk

^
cyWelsh