Skip to content

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn ganolfan y celfyddydau aml-bwrpas yng nghanol Pontardawe, 15 munud i ffwrdd o gyffordd 45 yr M4.

Mae gan Ganolfan Celfyddydau Pontardawe amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael i gynrychiolwyr eu llogi. Gellir addasu cynlluniau’r ystafelloedd hyn fel eu bod yn addas i’ch gofynion a’ch anghenion personol. Pan fyddwch yn chwilio am y lleoliad perffaith ar gyfer cynhadledd, neu le hyfforddi, gallwn sicrhau croeso cynnes a chyfeillgar gan ein staff profiadol.

Am gyfarfodydd neu gynadleddau mawr, mae ein hawditoriwm yn lleoliad ardderchog i hyd at 325 o gynrychiolwyr, gydag acwsteg wych a system sain lawn Gellir addasu ein hawditoriwm trawiadol i’ch gofynion beth bynnag yw eich digwyddiad.

Mae lle i 450 o seddau (gan gynnwys 170 â golwg gyfyngedig). Mae’r seddau symudadwy ar y prif lawr yn gwneud y theatr yn ofod hyblyg y gellir ei droi’n gyflym yn lleoliad cabaret anffurfiol ar gyfer 150 o bobl gan gynnwys llawr dawnsio, neu le i 180 heb lawr dawnsio.

Gall ein stiwdios amlbwrpas mawr gynnwys niferoedd bach neu hyd at 100 o bobl mewn seminar.

Mae cefnogaeth dechnegol lawn ar gael i roi sain a golwg broffesiynol i’ch digwyddiad. Mae taflunyddion, WiFi, cyfarpar cyflwyno, e-bost, cyfleusterau i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Wrth ystyried eich cwrs hyfforddi neu gynhadledd nesaf, beth am gysylltu â ni i gael amcanbris a fydd yn addas i’ch anghenion. Byddwn yn barod iawn i’ch helpu.

Ebost: m.h.gittins@npt.gov.uk  (Rheolwr Gweithrediadau)
Ffoniwch (01792) 863722 dewis 4

Hefyd yn yr adran hon...

Pontardawe Conference Room by kirsten mcternan

Llogi Preifat

Pontardawe venue

Cyfleusterau Cyfarfod A Chynhadledd

Bar y Theatr

Bar y Theatr

Tech Spec

Manyleb Technegol

^
cyWelsh