Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe’n cynnal SgriptSlam blynyddol.
Rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifennu newydd ar gyfer SgriptSlam 2017 Canolfan Celfyddydau Pontardawe.
Caiff deuddeg sgript eu dewis a’u perfformio mewn tair rownd gerbron cynulleidfa a phanel o feirniaid yn ystod tymor yr hydref. Bydd y beirniaid (Elen Bowman, Derek Cobley a Dean Verbeck) yn rhoi adborth ar yr holl ddarnau ac yn dewis un sgript ar gyfer y rownd derfynol. Yn ogystal, bydd y gynulleidfa’n dewis ei hoff ddarn a fydd hefyd yn mynd i’r rownd derfynol.
Cynhelir y rowndiau ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher, 5 Hydref
Dydd Mercher, 2 Tachwedd
Dydd Mercher, 30 Tachwedd
Cynhelir y rownd derfynol ddydd Mercher, 25 Ionawr 2017.
Mae ein cronfa o actorion proffesiynol yn cynnwys: Kevin Johns (y cyflwynydd), Francine Morgan, Michelle McTernan, Christian Patterson, Huw Richards, James Scannell a Nia Trussler-Jones (cydlynydd y prosiect). Byddant yn perfformio â’r sgript yn eu dwylo dan gyfarwyddyd Dean Verbeck.
Yn dilyn adborth o’r rowndiau cynderfynol, bydd ysgrifenwyr y darnau dethol yn cael cyfle i ddiwygio eu darnau er mwyn paratoi ar gyfer y rownd derfynol (rhaid cyflwyno sgriptiau diwygiedig erbyn 16 Ionawr 2017).
Yn y rownd derfynol, bydd beirniaid yn dewis y sgript fuddugol a chaiff yr ysgrifennwr y cyfle i weithio gyda’r Ganolfan Celfyddydau ar wythnos ymchwil a datblygu gyda chyfarwyddwr ac actorion i ddatblygu’r darn er mwyn ei berfformio. Bydd y lleoliad hefyd yn rhoi gwybod am gyfleoedd ariannu i ddatblygu’r darn os bydd yn briodol.
I gyflwyno cais:
Rhaid teipio eich sgript. Dylai fod yn ddarn deng munud ar y mwyaf o ddarn hwy o waith ysgrifennu (rydym yn cadw’r hawl i dorri’r darn i’r hyd angenrheidiol). Mae’n rhaid i’r darn fod yn bosib i’w lwyfannu heb lawer o bropiau a chyda dau actor ar y mwyaf (er y gellid defnyddio mwy o gymeriadau yn y darn terfynol).
Peidiwch â nodi eich enw ar y sgript. Fodd bynnag, dylech gynnwys taflen ar wahân gyda’ch enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn cyswllt arni.
Peidiwch ag anfon eich unig gopi, gan na fyddwn yn gallu dychwelyd eich sgript.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sgriptiau yw dydd Llun, 5 Medi, 2016. Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gyflwyno darn, e-bostiwch a.dickinson@npt.gov.uk neu postiwch y sgript at Angie Dickinson yn y cyfeiriad canlynol:
Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Stryd Herbert, Pontardawe SA8 4ED
Enillwyr blaenorol