Rydym yn deall yn iawn bod dod â’r teulu neu blant ifanc i’r theatr yn gallu bod yn brofiad dirboenus. Roeddem yn credu felly y byddem yn ceisio sicrhau bod yr ymweliad cyntaf hwnnw yn brofiad arbennig a hawdd.
Rydym wedi ceisio ystyried isod yr holl bethau y bydd rhaid ichi eu gwybod ynghylch dod â theulu i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe i wylio sioe neu ffilm. Mae ein staff cyfeillgar yma bob amser i’ch croesawu a’ch helpu. Os oes angen rhywbeth arnoch chi neu holiadau i’w hateb, mae croeso ichi ein ffonio ni neu ebostio pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk neu ofyn i aelod staff pan ddewch chi i’r Ganolfan.
Sioeau i’r Teulu
Mae nifer o’r sioeau yn ein rhaglen yn anelu’n benodol at deuluoedd a phlant ifanc. Byddwn ni’n cynnwys cyfarwyddyd bob amser yn ein taflenni ac ar ein gwefan ichi wybod pa sioeau sy’n addas i ba oedrannau.
Prisiau Sioeau i’r Teulu
Ar gyfer y rhan fwyaf o’n sioeau ni i’r teulu cyfan rydym yn cynnig pris tocynnau consesiynol, neu byddant yn rhan o’r cynllun cyfeillgar-i’r-teulu sy’n gadael i blant gydag oedolion dalu £1*. Rydym yn cynnig pris tocyn gostyngol yn aml i blant ychwanegol sydd am ddod i’n sioeau a’n digwyddiadau i blant.
Toiledau/Cyfleusterau Newid Babanod
Mae toiledau gyda ni ar bob lefel o Ganolfan Celfyddydau Pontardawe, ac mae ein cyfleusterau newid babanod a thoiledau hygyrch wedi’u lleoli ar y llawr isaf ger y theatr ac yn y coridor wrth ichi ddod i mewn i’r adeilad.
Cadeiriau Gwthio
Mae’r llawr isaf yn hollol hygyrch i gadeiriau gwthio plant a chadeiriau olwyn. Yn anffodus nid ydym yn gadael cadeiriau gwthio i mewn i’r brif neuadd ar gyfer perfformiadau, ond cewch chi eu gadael gyda staff blaen y tŷ i’w storio’n ddiogel. Does dim mynediad anabl i lawr uchaf y theatr, ond rhowch wybod i staff y Swyddfa Docynnau am unrhyw ddefnyddwyr cadair olwyn wrth drefnu eich tocynnau.
Y Bar
Mae cynhyrchion gyda ni sy’n addas i blant, gan gynnwys diodydd a chydau danteithion â phecynnau gweithgareddau.
Polisi seddau plant bach
Does dim tâl mynediad i blant dan 18 mis sy’n gallu eistedd ar eich glin, ond ichi roi gwybod i’r Swyddfa Docynnau wrth brynu’ch tocynnau.
Clustogau Hybu
Mae nifer fach o glustogau hybu ar gael gyda ni i’w defnyddio gan blant yn y brif neuadd. Os carech chi gael un, gofynnwch i aelod staff a fydd yn eich cynorthywo.