Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor ar hyn o bryd i ymholiadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn (01792 863722) o 10.30am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os na allwch ddod trwodd atom o fewn yr oriau hyn gallwch bob amser adael neges neu anfon e-bost atom yn pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk.

Fe ddown ni yn ôl atoch chi beth bynnag cyn gynted â phosibl.

Ydw, er byddwch yn ymwybodol efallai na fydd ein drysau bob amser ar agor y tu allan i oriau'r Swyddfa Docynnau.

Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau trwy unrhyw un o’r cyfryngau uchod, ac fe ddeliwn ni â’ch ymholiad cyn gynted â phosibl.

Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech bosibl i gysylltu â’n cwsmeriaid i gyd ynghylch sioeau sydd wedi cael eu gohirio neu eu canslo, mae’n bosibl ein bod ni wedi methu â chysylltu â phob un oherwydd nifer yr ad-daliadau yr oedd rhaid inni eu prosesu.

Os mai dyna’ch achos chi, carem ofyn ichi fod yn amyneddgar gyda ni.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gael sinema bwrpasol newydd wedi'i hadeiladu, sydd i fod i agor erbyn Haf 2025.

Tan hynny byddwn yn gyfyngedig i'n Rhaglen Ffilm sydd i'w chael yma.

Cesglir y post bob dydd Mercher, felly caniatewch amser ychwanegol os gwnaethoch archebu ar ôl y diwrnod hwn.

Unwaith y bydd eich tocynnau wedi'u postio allan, caniatewch hyd at dri diwrnod gwaith iddynt gael eu danfon.

Os ydych chi’n aros am docynnau trwy’r post ac yn teimlo bod amser hir wedi mynd heibio ers ichi eu harchebu, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ein gorau glas i ymchwilio i hyn.

Mae tocynnau consesiwn ar gyfer y rhai dros 60 oed ac o dan 16 oed, oni nodir yn wahanol.

Yn ogystal, gall unigolion di-gyflog brynu tocynnau rhatach hefyd.

Noder, nad yw pob sioe yn cynnig prisiau rhatach.


Cwestiynau Cyffredin Ymwelwyr

Mae sawl maes parcio yn agos i’r Ganolfan. Mae yna un ar Stryd Herbert i’r dde o’r Ganolfan, ac mae un arall y tu draw i’r danffordd gyferbyn â hi. Codir tâl yn y meysydd parcio hyn cyn 6.00yh. gadewch ddigon o amser i gael lle i barcio cyn digwyddiadau poblogaidd. Byddwch yn ystyrgar tuag at y prewsylwyr a busnesau yn yr ardal wrth barcio.

Cewch, mae hawl gyda chi fynd â diodydd i mewn gyda chi. Fe ddarperir gwydrau plastig.

Mae sawl tŷ bwyta Indiaidd yn agos i’r Ganolfan. Mae’r Tamarind yn cynnig gostygiad o 10% ar brydau bwyd (Llun – Iau) cyn ac ar ôl sioeau; mae hyn yn ddilys ar ddyddiad eich tocyn. Mae nifer o dafarnau yn yr ardal yn gweini prydau bwyd hefyd.

Ym marn llawer o bobl, y seddau gorau yw’r rhai lan llofft yn y Cylch, yn wynebu’r llwyfan. Does dim rhywyddfynediad i’r Cylch ar gyfer pobl anabl. Mae’r holl seddau lawr y grisiau’n wynebu’r llwyfan yn ogystal. Mae gan y seddau ar ochrau’r Cylch olwg gyfyngedig. Os ydych chi’n ansicr galwch y Swyddfa Docynnau, sy’n gallu eich cynghori am hyn.

Mae lifft ar gael i gyrraedd y stiwdio dawnsio ac Oriel Lliw. Yn anffodus, does dim lifft i fyny i Gylch y theatr.

Mae’r bar ar agor bob amser cyn sioeau ac yn ystod yr egwyl. Ar nosweithiau prysur fe fydd y bar yn aros ar agor tan ddiwedd y digwyddiad. Mae bar â stoc da o ddiodydd alcoholig ac ysgafn a detholiad o fyrbrydau gyda ni. Yn ogystal mae’r bar yn gweini te a choffi, ond nid yw’r rhain ar gael bob amser ar nosweithiau prysur. Os yw’r bar ar gau, holwch aelod o’r staff neu rywun yn y Swyddfa Docynnau a byddant yn hapus i’ch helpu.

Sefydlwyd yr ardoll o 10% ar docynnau ar 1af Ebrill 2015 fel modd o’n cynorthwyo ni i ddarparu system archebu tocynnau safonol ac i aros yn gynaliadwy. Ychwanegir yr ardoll yma at bris ein tocynnau i gyd. I gael rhagor o fanylion darllenwch yr Amodau a Thelerau ar y wefan hon.  Our ticket levy will be going up to 10% from Jan 1st 2018 all bookings before this date remain at 10%
Y bwriad yw sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu profiadau safonol ar gyfer ein cwsmeriaid tra’n aros yn gynaliadwy yn y dyfodol.

Mae toiledau ar bob lefel o’r adeilad. Mae toiledau y tu allan i’r brif theatr, ar y llawr isaf a lan llofft. Mae toiled hygyrch arall yn y coridor wrth ichi ddod i mewn i’r adeilad. Mae toiledau lan llofft hefyd gyferbyn â’r stiwdio dawnsio, ac ar y llawr uchaf ger Oriel Lliw.

Mae rhwyddfynediad i’r adeilad ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. Mae’r llawr isaf yn hollol hygyrch. Os bydd angen lle i gadair olwyn arnoch chi, rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocynnau. Nid ydym yn gadael pramiau na bygis i mewn i’r theatr ar gyfer digwyddiadau, ond gofynnwch i aelod o’r staff esbonio ichi ymhle gellir eu storio’n ddiogel yn ystod sioeau.

You are available to pick up your tickets from when they have been purchased in person from our box office when it is open from 1.30pm-8pm. You can also collect them on the day of the show.  We are able to post tickets at a cost of £2.

Dangosir hyd y gwahanol ddigwyddiadau ar ein gwefan. Mae trefnu egwyl neu beidio yn dibynnu ar hyd pob sioe.

Rhoddir manylion unrhyw wybodaeth neu gymorth ar y wefan; neu, os ydyn ni’n gwybod ymlaen llaw bydd y manylion yn ymddangos yn ein taflen ddigwyddiadau.

Rydym yn perthyn i Gynllun Hynt sydd ar waith yn genedlaethol mewn canolfannau adloniant ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y gall eich gofalwr(aig) ddod i ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim. Bydd raid ichi gysylltu ag http://www.hynt.co.uk/en/join/become-a-member/  i weld a ydych chi’n gymwys i ymuno â’r cynllun.

We do offer exchanges within an event but we’re unable to swap them to another show. Please contact our box office for more information.

Na chewch; nid ydym yn cynnig ad-daliad ar docynnau.

Cewch archebu tocyn ymlaen llaw i’w gadw am hyd at saith diwrnod.

Os oes seddau eraill ar gael gofynnwch i aelod o’n staff, a fydd yn hapus i’ch helpu i symud i sedd arall.

Nid oes angen tocyn i blant dan 18 mis oed, heblaw yn achos sioeau penodol ar gyfer babanod a phlant bach.

Os ydych chi’n gwybod rhif sedd eich ffrind, rhowch wybod i’r Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocyn. Byddant yn gwirio a oes seddau rhydd gerllaw. Ni allwn roi gwybodaeth fel arall ynghylch pobl eraill sydd wedi prynu tocynnau.

Ydy, mae’r theatr a’n stafelloedd ni i gyd ar gael i’w llogi. Cysylltwch â’r rheolwr gweithrediadau Meirion Gittins i ddysgu rhagor am sut i drefnu hyn.  m.h.gittins@npt.gov.uk

We welcome all feedback on any shows or your experiences on visiting Pontardawe Arts Centre.  You can email us at pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk  or tell us what you think on our contact us page on the website.  You can always leave a review for us on our facebook page https://www.facebook.com/PontardaweArtsCentre/

Our box office is open from 10.30amuntil 8pm Monday to Friday.  We are also open for an hour before any show.  You can always book for any show online.

Cewch ebostio unrhyw gwestiynau a holiadau i: pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk a byddwn yn eich helpu â phleser. Neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau yn ystod yr oriau agor a bydd rhywun yn eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau sydd gyda chi.

^
cyWelsh