Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor ar hyn o bryd i ymholiadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn (01792 863722) o 10.30am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os na allwch ddod trwodd atom o fewn yr oriau hyn gallwch bob amser adael neges neu anfon e-bost atom yn pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk.

Fe ddown ni yn ôl atoch chi beth bynnag cyn gynted â phosibl.

Ydw, er byddwch yn ymwybodol efallai na fydd ein drysau bob amser ar agor y tu allan i oriau'r Swyddfa Docynnau.

Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau trwy unrhyw un o’r cyfryngau uchod, ac fe ddeliwn ni â’ch ymholiad cyn gynted â phosibl.

Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech bosibl i gysylltu â’n cwsmeriaid i gyd ynghylch sioeau sydd wedi cael eu gohirio neu eu canslo, mae’n bosibl ein bod ni wedi methu â chysylltu â phob un oherwydd nifer yr ad-daliadau yr oedd rhaid inni eu prosesu.

Os mai dyna’ch achos chi, carem ofyn ichi fod yn amyneddgar gyda ni.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gael sinema bwrpasol newydd wedi'i hadeiladu, sydd i fod i agor erbyn Haf 2025.

Tan hynny byddwn yn gyfyngedig i'n Rhaglen Ffilm sydd i'w chael yma.

Cesglir y post bob dydd Mercher, felly caniatewch amser ychwanegol os gwnaethoch archebu ar ôl y diwrnod hwn.

Unwaith y bydd eich tocynnau wedi'u postio allan, caniatewch hyd at dri diwrnod gwaith iddynt gael eu danfon.

Os ydych chi’n aros am docynnau trwy’r post ac yn teimlo bod amser hir wedi mynd heibio ers ichi eu harchebu, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ein gorau glas i ymchwilio i hyn.

Mae tocynnau consesiwn ar gyfer y rhai dros 60 oed ac o dan 16 oed, oni nodir yn wahanol.

Yn ogystal, gall unigolion di-gyflog brynu tocynnau rhatach hefyd.

Noder, nad yw pob sioe yn cynnig prisiau rhatach.

^
cyWelsh