Skip to content

Dros Dro a Dadleoli

20 Feb 2026

07:30

Dadleoli 

Mae Dadleoli yn fand Cymraeg sydd wedi hên dorri tir bellach fel un o’r enwau mwyaf addawol ar y sîn. Bu i haf 2025 gynnwys perfformiadau yng ngwyl Tafwyl, ar brif lwyfan y Sesiwn Fawr Dolgellau, Llwyfan y Maes a Maes B yn Eisteddfod Wrecsam 2025 . Yn chwarae cerddoriaeth Indie Rock mae eu sain yn egniol a modern. Aelodau’r band yw Efan Williams, Jake Collins, Caleb Griffiths, Tom Spivey a Jac Cordery. 

Dros Dro 

Mae ‘Dros Dro’ yn fand pop/roc cyfrwng Cymraeg o Sir Gaerfyrddin. Dechreuodd y band yn 2022, ac ers hynny maent wedi bod yn mynd o nerth i nerth.Mae rhai o’u prif uchafwbyntiau fel band yn cynnwys chwarae ar rhai o lwyfannau mwyaf y Sîn Gerddoriaeth Gymerig, i ennill Cân i Gymru 2025 a derbyn tlws Cân Rhyngwladol Orau’r Wyl Ban Geltaidd.Gyda dwy albwm llawn i’w henw Byth yn Gytûn a Y Diwrnod ar ôl Yfory, mae’r band yn parhau i gyfansoddi a datblygu ei sain ac yn dal i gigio’n gyson ar hyd a lled y wlad ac bob tro yn agored i gyfleuoedd newydd.

Archebu

Choose a date and time...

cyWelsh