Skip to content

Mae Hynt yn gynllun mynediad cenedlaethol newydd sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr â nam neu ofynion mynediad penodol ac i’w Gofalwyr a’u Cynorthwywyr Personol.

Bydd y wefan yn nodi popeth fydd angen i chi ei wybod am Hynt; ar gyfer pwy mae Hynt, beth mae’n ei ddarparu, a sut i ddod yn aelod.

Os oes angen cefnogaeth neu gymorth arnoch i fynychu perfformiad mewn theatr neu ganolfan gelf, yna efallai y byddwch yn gymwys i ymuno â Hynt.

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr.

Os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, neu os ydych yn gofalu am rywun fel hyn, yna mae Hynt yn berthnasol i chi.

Cerdyn aelodaeth yw Hynt

Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt yr hawl i docyn di-dâl i gynorthwy-ydd neu ofalwr personol ym mhob un o’r theatrau a chanolfannau celfyddydau sy’n cymryd rhan yn y cynllun. I weld a ydych chi’n gymwys, neu i anfon cais, ewch at y wefan www.hynt.co.uk

Dylid anfon pob cais am gerdyn Hynt at applications@hynt.co.uk neu ei bostio i:

Hynt Card
Network House
St Ives Way
Sandycroft
Flintshire
CH5 2QS

^
cyWelsh