Skip to content

Adeiladwyd y lleoliad yn wreiddiol ym 1908 fel Neuadd Gyhoeddus ac athrofa ac roedd llawer o ddathlu pan gafodd ei agor ym 1909 gan y Feistres Adeline Patti.

Fe’i cynlluniwyd gan W. Beddoe Rees o Gaerdydd ac fe’i hadeiladwyd gan Radford and Greaves o Derby. Roedd yr adeilad yn cynnwys tair ardal bensaernïol ar wahân: y prif adeilad tri llawr sy’n cynnwys swyddfeydd, neuadd snwcer un llawr, ac awditoriwm mawr.

Fel nifer o neuaddau cyhoeddus yn Ne Cymru, dirywiodd Athrofa Pontardawe ac yn y pen draw, caeodd i’r cyhoedd. Ym 1993 ceisiodd Cyngor Dyffryn Lliw wella darpariaeth y celfyddydau yn y dref a oedd, ar y pryd, yn defnyddio lleoliad (a oedd yn cael ei adnabod fel Theatr Cwmtawe) yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe, i gynnal digwyddiadau diwylliannol. Fodd bynnag, roedd y lle yn gyfyngedig ac yn cyfyngu ar galibr y digwyddiadau y gellid eu cynnal yno. Gan ddefnyddio arian gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac Asiantaeth Datblygu Cymru, prynwyd prydles yr hen Athrofa a dechreuwyd cynllunio lleoliad newydd. Ym 1996 ail-agorwyd Canolfan Celfyddydau Pontardawe gan gynnwys Swyddfa Docynnau, Oriel Gelf Lliw, stiwdio ddawns, ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd, yr hen neuadd snwcer wedi’i hadfer, bar theatr, yr awditoriwm mawr traddodiadol a sinema’r dref.

Ffaith neu Ffuglen?

Dywed gan nifer heddiw, fod ysbrydion yn y lleoliad, ac mae’r cyhoedd ac aelodau o’r staff wedi cael profiadau bwganllyd yno, gan gynnwys clywed y piano yn chwarae ar ei ben ei hun a gweld golygfeydd ysbrydol yn y nos. Mae hyd yn oed wedi bod yn safle archwiliad paranormal. Sgeptig neu beidio, mae’n anodd gwadu bod yr adeilad yn gymysgedd gwych o arddulliau cyfoes a thraddodiadol. Mae’n llawn hanes ac yn drysor i bobl Pontardawe.

^
cyWelsh