Skip to content

Gwybodaeth i Ymwelwyr: Mae cyrraedd yma’n syml…

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n darllen hyn yn defnyddio ffôn clyfar i gyrraedd…

Ac os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, peidiwch becso! Fe ddangoswn ni ichi sut i gyrraedd beth bynnag…

 

I ddefnyddwyr ffôn clyfar a rhai Unedau Llywio â Lloeren …

Pa ffôn clyfar bynnag (iPhone, Android etc) sydd gyda chi, ewch at eich ap gwe-lywio (Maps, Google Maps, Google Earth, Tom Tom ayyb). Teipiwch ‘Pontardawe Arts Centre’ a chlicio ar y faner sy’n dweud ‘Pontardawe Arts Centre’, yna gwasgwch ‘Directions to Here’ neu teipiwch ‘SA8 4ED’.

Ac os yw’n well gyda chi gael cyfeiriadau hen ffasiwn fel yn yr hen ddyddiau gynt ….

 

Cerdded neu Feic! 

Rydym yn meddwl am ein hôl troed carbon felly os gallwch chi feddwl ymlaen llaw a rhoi cynnig ar yr opsiynau hyn yn gyntaf…

Cerdded Mae llawer o bobl sy'n ymweld â'r lleoliad yn byw o fewn pellter cerdded, hyd yn oed os yw i fyny neu i lawr bryn, os ydych chi'n gallu cerdded mwynhewch ef.

Beic Rydym ni ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, rydym ni 2 funud o daith o lwybr 43, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y ddau ddolen isod ac mae'n werth beicio ar hyd y llwybr hwn gan ei fod yn daith wych. Mae gennym ni raciau beiciau y tu allan i'r lleoliad hefyd. Dyma'r ddolen i'r llwybrau beicio lleol a mapiau teithio egnïol.

Gweld map | DataMapWales (llyw.cymru)
Route 43 – Sustrans.org.uk

Cludiant Cyhoeddus

Ar y Bws Mae bysiau’n mynd yn uniongyrchol i Bontardawe o Gastell Nedd ac Abertawe’n rheolaidd.
Ar y Trên The nearest train station is Neath Station, approx. 6 miles. (Trainline)

Ar yr heol

Os ydych chi'n gallu rhannu car neu gynnig lifft i ffrindiau a theulu os yn bosibl, byddai hynny'n wych. Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 45 a chymerwch yr A4067 gydag arwydd Pontardawe. Wrth y gylchfan gyntaf ewch yn syth ymlaen (2il allanfa). Wrth yr 2il gylchfan ewch yn syth ymlaen. Wrth y 3ydd gylchfan (Archfarchnad Tesco) cymerwch yr 2il allanfa i'r chwith. Wrth y 4ydd gylchfan ewch yn syth ymlaen (3ydd allanfa) i Ystad Ddiwydiannol Pontardawe. Cymerwch y 1af i'r chwith am Ganolfan siopa Stryd Herbert. Trowch i'r chwith wrth y gyffordd-T. Mae Canolfan Gelfyddydau Pontardawe ar eich chwith.

Parcio

Gellir parcio ar hyd Stryd Herbert, ym maes parcio cyhoeddus Stryd Herbert (trowch i’r dde wrth Ganolfan y Celfyddydau) neu ym maes parcio clwb nos ‘Paradise’. Dyma sut i gyrraedd:

Trowch i’r chwith wrth y 4edd gylchfan (2il allanfa), ac mae’r maes parcio ar y llaw dde. Mae pont droed yn y maes parcio; cerddwch dros y bont droed, ac mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe ar ochr arall yr heol.

Tacsi Agosaf:A&M taxi: 01792 860222

 

 

Hefyd yn yr adran hon...

Hygyrchedd

Hygyrchedd

Hynt

Hynt

Pontardawe Family Visits

Ymweliadau Teulu

Parcio

Parcio

Cyrraedd Yma

cyWelsh