Skip to content

ARCHEBU TOCYNNAU

Mae prisiau consesiwn ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o sioeau; ffoniwch neu e-bostiwch ein Swyddfa Docynnau er mwyn trafod eich anghenion.

MYNEDIAD I’R ADEILAD

Mae'r Swyddfa Docynnau a'r Theatr ar lefel y stryd; argymhellir i gwsmeriaid sydd â symudedd cyfyngedig eistedd i lawr y grisiau. Dim ond trwy ddefnyddio grisiau y gellir cyrraedd rhannau eraill o'r awditoriwm ac yn anffodus, nid oes lifft ar gyfer y cylch sydd wedi'i leoli i fyny'r grisiau. Siaradwch â staff ein Swyddfa Docynnau i drafod eich gofynion wrth archebu eich tocynnau, boed hynny'n bersonol gyda'n swyddfa docynnau sy'n addas i gadeiriau olwyn neu ffoniwch ni ar 01792 863722.

Mae’r bar yn hygyrch gan ei fod ar lefel y stryd hefyd.

TOILEDAU HYGYRCH

Mae dau doiled hygyrch yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe; maent yn hygyrch o ardal seddi’r theatr. Mae’r toiledau’n gwbiclau a chanddynt ganllaw, cyfleusterau newid cewynnau, basin golchi dwylo hygyrch a drws sy’n agor i’r tu allan.

MYNEDIAD I GADEIRIAU OLWYN

Mae safleoedd ar gyfer chwe chadair olwyn ar gael lawr llawr. Wrth i chi drefnu, nodwch eich bod yn defnyddio cadair olwyn er mwyn i staff ein Swyddfa Docynnau sicrhau bod y seddi gorau ar gael.

CYMORTH I BOBL FYDDAR NEU SYDD Â NAM AR EU CLYW

Mae croeso i chi anfon e-bost pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk neu anfonwch neges atom drwy ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am unrhyw geisiadau am gymorth ychwanegol.

CŴN TYWYS A CHŴN CLYWED

Mae croeso i gŵn tywys a chŵn clywed yn y theatr. Gallant eistedd gyda chi yn yr awditoriwm neu gall ein tîm Blaen Tŷ’n ofalu amdanynt wrth i chi fwynhau’r perfformiad.

MEYSYDD PARCIO

Mae'r maes parcio agosaf gyferbyn â'r Pink Geranium ar Stryd Herbert. Mae yna hefyd bum lle parcio i bobl anabl yn y maes parcio sydd wedi'i leoli'n uniongyrchol gyferbyn â'r Theatr sydd trwy'r llwybr cerdded. Mae yna hefyd ddau le parcio i bobl anabl y tu ôl i'r lleoliad.

cyWelsh