Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Rydym wedi dechrau gweithredu ein cynllun ar gyfer ail-agor yn raddol, ac mae drysau’r Ganolfan ar agor erbyn hyn yn ystod oriau’r Swyddfa Docynnau.

Cofiwch fod angen inni lynu wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru, a all fod yn newidiol yn senario bythol newidiol y pandemig.

Daliwch i ddarllen ein gwefan a’n tudalennau ni ar y cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd i weld yr wybodaeth ddiweddaraf.

O'r 15ed o Dachwedd, mae’r Swyddfa Docynnau ar agor erbyn hyn i ateb ymholiadau yn y cnawd a dros y ffôn (01792 863722) o 10.30yb tan 2.45yp ac o 6.15yp tan 8yh, Llun- Gwener.

On Wednesdays’ we’ll be open from 11.30am.

Os na allwch ddod trwodd atom o fewn yr oriau hyn gallwch bob amser adael neges neu anfon e-bost atom yn pontardawe.boxoffice@npt.gov.uk.

In either case, we will get back to you as soon as we can.

Yes, although please be aware that our doors may not always be open outside of Box Office hours.

Nid ydym yn mynnu eich bod yn cadw pellter cymdeithasol bellach, ond mae nifer o bwyntiau diheintio dwylo o gwmpas yr adeilad.

Carem ofyn i ymwelwyr ddal i ofalu am ddiogelwch y staff a chwsmeriaid eraill.

Os yw’n well gyda chi eistedd ar wahân i gwsmeriaid eraill yn y Ganolfan, cysylltwch â staff y Swyddfa Docynnau a fydd yn gwneud eu gorau glas i’ch cynorthwyo yn hyn o beth.

From the 28th of February 2022 masks will no longer be required when entering the venue or whilst attending events.

In addition, from the 18th of February 2022 vaccine passes will no longer be required when attending ticketed events.

If you are displaying any symptoms however, we would ask that you to refrain from attending the venue.

Please contact the box office for ticket deferments or refund requests in relation to Covid illnesses.

Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau trwy unrhyw un o’r cyfryngau uchod, ac fe ddeliwn ni â’ch ymholiad cyn gynted â phosibl.

Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech bosibl i gysylltu â’n cwsmeriaid i gyd ynghylch sioeau sydd wedi cael eu gohirio neu eu canslo, mae’n bosibl ein bod ni wedi methu â chysylltu â phob un oherwydd nifer yr ad-daliadau yr oedd rhaid inni eu prosesu.

Os mai dyna’ch achos chi, carem ofyn ichi fod yn amyneddgar gyda ni.

Y bwriad ar hyn o bryd yw canlyn arni gyda phob sioe sy’n cael ei hysbysebu ar ein gwefan. Mae’n bosibl serch hynny y bydd dyddiadau, amserau a niferoedd cynulleidfa’n gorfod cael eu newid.

Cofiwch er gwaethaf popeth y gallwch chi ddal i brynu tocynnau gyda phob hyder, gan wybod bod ad-daliad ar gael ar docynnau i bob sioe sydd wedi cael ei had-drefnu.

Roedd cynulleidfa lai niferus wedi cael ei gosod ar gyfer rhai digwyddiadau yn unol â’r canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol, gan ein bod ni wedi trefnu iddynt fynd ymlaen onid oedd rhaid inni ddychwelyd at gyfyngiadau’r cyfnod clo.

Ar hyn o bryd caniateir cynulleidfa lawn mewn digwyddiadau, ac o ganlyniad ni fydd angen gosod protocolau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer y rhan fwyaf o’n sioeau ni.

Cofiwch y gall hyn oll newid eto os bydd yr amgylchiadau’n galw amdano.

Ydy, ar hyn o bryd mae ein sinema’n dangos ffilmiau; gallwch weld pa rai ar ein tudalen Beth Sydd Ymlaen yma.

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’n bosibl y bydd oedi wrth inni bostio tocynnau i’n cwsmeriaid ni.

Rydyn ni’n sefydlu system dros dro i sicrhau y bydd tocynnau’n cael eu postio allan unwaith yr wythnos.

Os ydych chi’n aros am docynnau trwy’r post ac yn teimlo bod amser hir wedi mynd heibio ers ichi eu harchebu, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ein gorau glas i ymchwilio i hyn.

Concession tickets are for those over the ages of 60 and below 16, unless stated otherwise.

In addition, unwaged individuals may also purchase concessionary tickets.

Please note, that not all shows will have Concessionary prices available.

^
cyWelsh